Amdanom
Pwy ydym?
Mae SEEC yn ganolfan ymchwil “data mawr” rhyngddisgyblaethol £7M sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau o ran gwyddoniaeth ynni carbon isel. Mae’r SEEC wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru. Mae SEEC yn ddatblygiad strategol blaengar i Goleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg sydd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor. Bydd yn arwain arloesedd ynglŷn â’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio uwch beirianneg, cyfrifiadureg a modelu i fynd i’r afael â heriau mawr i gynyddu cynaliadwyedd cyflenwad ynni a’r defnydd ohono, gan leihau’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, yn arbennig allyriadau carbon net. Bydd SEEC yn allweddol i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro technolegol hwn, sy’n un o’r prif flaenoriaethau i fynd i’r afael ag ef yn yr argyfwng presennol yn gysylltiedig â’r hinsawdd.
Beth Ydym yn ei wneud?
Mae SEEC yn cwmpasu tri sector ynni carbon isel (ynni morol, ynni niwclear, a strwythurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon), wedi’u cysylltu gan hyb seiberseilwaith. Mae SEEC yn ganolfan ymchwil ac arloesedd, a’i nod penodol yw datblygu ymhellach yr arbenigedd byd-enwog mewn ymchwil ynni carbon isel ym Mhrifysgol Bangor, gan arwain at ddenu grant pellach yn y maes ymchwil hwn.