Seiberseilwaith

Mae nifer o heriau cyffredin o fewn SEEC. Mae angen gwneud y defnydd gorau o’r setiau data mawr a gafwyd drwy’r rhwydweithiau arsyllu a synwyryddion. Mae angen setiau data mawr ar fodelau rhifyddol, er enghraifft ar gyfer cychwyn, graddnodi a dilysu. Mae angen dadansoddi allbynnau modelau i wella gwybodaeth a darparu rhagfynegiadau cadarn. Bydd y seiberseilwaith a ddatblygir yn manteisio ar alluoedd TG modern i ddarparu cyfleuster a rennir ar gyfer rheoli data, yn cynnwys storio data, darganfod data a gwasanaethau lawrlwytho, ynghyd â gallu manwl i ddadansoddi data. Bydd data a dulliau dadansoddi’n cael eu storio yn y cwmwl a byddant yn darparu datrysiadau mesuradwy wedi’u teilwra ar gyfer cyfranogwyr SEEC, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill.

Nodau ac Amcanion

Y nod yw datblygu seiberseilwaith newydd i ddiwallu anghenion cyffredin sectorau ynni adnewyddadwy morol, ynni niwclear a rhai sy’n  defnyddio ynni’n effeithlon:

  1. Adolygu gofynion pob maes ar gyfer ymarferoldeb seiberseilwaith i helpu i gasglu data, rheoli dada a dadansoddi data.
  2. Adolygu gofynion pob sector ar gyfer seiberseilwaith i gefnogi modelu rhifyddol manwl.
  3. Datblygu manyleb ar gyfer seiberseilwaith SEEC yn seiliedig ar ofynion sector.
  4. Gweithredu a phrofi seiberseilwaith SEEC trwy nifer o astudiaethau peilot.
  5. Nodi a hyrwyddo defnydd ehangach o seiberseilwaith mewn ymchwil a rhaglenni gweithredol.
  6. Darparu seiberseilwaith SEEC gweithredol.