Ynni Niwclear

Mae ynni niwclear yn rhan sylfaenol bwysig o’r amrywiaeth ynni ar gyfer trosi ynni carbon isel drwy’r byd. Nid oes angen dweud bod rheoli gorsafoedd niwclear yn gymhleth a bod diogelwch yn hollbwysig. Gyda hyn mewn cof, mae’r genhedlaeth bresennol o orsafoedd niwclear yn amodol ar safonau llym a cheidwadol iawn o ran ei dulliau rheoli, yn seiliedig yn bennaf ar dechnolegau gwifredig. Byddai’n bosibl i effeithlonrwydd safleoedd yn gyffredinol elwa’n sylweddol drwy newid i systemau rheoli cyfrifiadurol mwy soffistigedig, ond mae'n ddealladwy bod rhwystrau rhag eu mabwysiadu nes bod modd dangos yn fanwl gywir eu bod yn ddiogel.

Bydd SEEC yn adolygu a datblygu’r methodolegau modern presennol ar gyfer dilysu diogelwch a chywirdeb systemau rheoli cyfrifiadurol a’u dangos ar fodelau efelychu a chaledwedd prototeip systemau lle mae diogelwch yn allweddol.

Nodau ac Amcanion

Nod y pecyn gwaith ynni niwclear yw datblygu methodolegau ar gyfer dilysu modelau cyfrifiadurol  o ffenomena cymhleth trwy ddatblygu rhwydweithiau synwyryddion ac adeiladu ar y gallu i ddilysu a gwirio defnyddioldeb systemau rheoli cyfrifiadurol ar gyfer safleoedd lle mae diogelwch yn allweddol a seilwaith yn y sectorau ynni adnewyddadwy morol, ynni niwclear a defnyddio ynni’n effeithlon:

  1. Adolygu a syntheseiddio’r methodolegau modern presennol ar gyfer dilysu a gwirio modelau cyfrifiadurol.
  2. Adolygu a syntheseiddio’r dulliau mathemategol modern presennol ar gyfer dilysu ac ardystio systemau rheoli cyfrifiadurol, yn cynnwys adolygu safonau electrodechnegol perthnasol.
  3. Datblygu, ar y cyd â’r pecyn gwaith seiberseilwaith, astudiaeth beilot ar gyfer y synwyryddion, system weithredu a rheoli system neu safle cynrychioliadol.
  4. Datblygu methodolegau newydd ar gyfer dilysu a gwirio efelychiadau cyfrifiadurol o seilwaith allweddol drwy astudiaethau rhifyddol wedi'u dylanwadu gan rwydweithiau synwyryddion.
  5. Datblygu methodolegau ar gyfer dilysu ac ardystio systemau rheoli cyfrifiadurol mewn meysydd defnyddio/rhaglenni critigol o ran diogelwch a chenhadaeth, a gweithredu astudiaeth achos o’u defnydd i system yn gysylltiedig â gofynion rhanddeiliad SEEC.