Cynaliadwyedd

Yn ogystal â phecynnau gwaith gwyddoniaeth, mae SEEC yn gweithio tuag at nifer o themâu trawsbynciol, yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag egwyddorion cyffredinol fel democratiaeth, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a llywodraethu da. Nod y themâu trawsbynciol yw gwella ansawdd ac etifeddiaeth SEEC, ac ychwanegu gwerth i raglenni cronfeydd strwythurol yn gyffredinol. Y themâu trawsbynciol ar gyfer SEEC yw:

  1. Cyfranogiad menywod mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
  2. Gweithgareddau sy’n gefnogol i’r Gymraeg.
  3. Datblygu cynllun teithio sefydliadol a chynlluniau cludiant cynaliadwy.
  4. Ariannu mesurau effeithlonrwydd.
  5. Datblygu / ymgysylltu â phencampwyr themâu trawsbynciol.
  6. Cyflwyno rhaglen hyfforddi staff themâu trawsbynciol.