Cyfarfod y Tîm

Simon Neill

Cyfarwyddwr y Ganolfan Ynni Effeithlon Craff (SEEC) ac arweinydd y pecyn ynni adnewyddadwy cefnforol

Mae Simon Neill yn athro eigioneg ffisegol, gan arbenigo mewn ynni adnewyddadwy cefnforol: yn disgrifio adnodd ynni’r tonnau a’r llanw, deall rhyngweithio rhwng y tonnau a’r llanw, integreiddio grwpiau o ddyfeisiau ynni adnewyddadwy cefnforol i’r grid ynni yn y ffordd orau bosibl, a mesur effaith echdynnu ynni o’r cefnforoedd ar yr amgylchedd. Ef yw sylfaenydd a chyfarwyddwr cwrs MSc mewn Ynni Adnewyddadwy Morol ac mae’n aelod o bwyllgor y Comisiwn Electrodechnegol Rhyngwladol (IEC), sy’n adolygu Manyleb Dechnegol IEC 62600-201: Asesu a Disgrifio Adnodd Ynni’r Llanw. Mae'n aelod o fwrdd golygyddol cyfnodolyn Elsevier Renewable Energy, mae wedi ysgrifennu gwerslyfr ar ynni morol "Fundamentals of Ocean Renewable Energy: Generating Electricity from the Sea" ac mae'n brif wyddonydd ym maes gwaddod yn FORCE (Canolfan Ymchwil ar gyfer Ynni Fundy Ocean).

E-bost: s.p.neill@bangor.ac.uk

Dewch i wybod mwy am Simon Neill.

Iestyn Pierce

Arweinydd pecyn gwaith ynni niwclear

Iestyn Pierce yw Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys dynameg laser lled-ddargludydd a phrosesu signalau digidol ar gyfer systemau rheoli a chyfathrebiadau optegol cyflymder-uchel. Mae wedi cyhoeddi dros 100 o erthyglau i gylchgronau a chynadleddau, ac mae'n gydawdur tair pennod mewn llyfr ar ddynameg laser lled-ddargludydd. Mae'n aelod o’r Gymdeithas Ffotoneg IEEE, y Gymdeithas Cylchedau a Systemau IEEE, yn aelod o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg,  aelod o Sefydliad Ffiseg, ac yn Ffisegwr Siartredig. Bu’n ysgrifennydd pwyllgor gwyddoniaeth  Eisteddfod Genedlaethol 2005. Mae'n cadeirio Canolfan Beirianneg Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy’n rhoi cyfle i gannoedd o ddisgyblion ysgolion uwchradd lleol gael blas ar fod yn beiriannydd.

E-bost: i.pierce@bangor.ac.uk

Dewch i wybod mwy am Iestyn Pierce.

Graham Ormondroyd

Arweinydd pecyn gwaith strwythurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon

Ma Graham Ormondroyd yn Bennaeth Ymchwil Deunyddiau yn y Ganolfan  BioGyfansoddion. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y defnydd o fioddeunyddiau ym mhob agwedd o’n bywydau, yn cynnwys adeiladu. Mae gan Graham ddiddordeb penodol mewn defnyddio coed i adeiladu a’r manteision yn deillio o hynny i’r blaned ac i’n bywydau.  Mae Graham yn gadeirydd y gymdeithas - Wood Technology Society, yn Ymddiriedolwr IOM3, ac ar fwrdd golygyddol International Wood Products Journal. Mae Graham hefyd yn cynrychioli’r DU ar CEN TC 175 ac yn cynnull gweithgor 1. Mae Graham wedi ysgrifennu nifer o benodau mewn llyfrau ar adeiladu gyda bioddeunyddiau ac mae wedi golygu “Designing with Natural Materials”.

E-bost: g.ormondroyd@bangor.ac.uk

Dave Mills

Arweinydd pecyn gwaith seiberseilwaith

Dave Mills yw Cyfarwyddwr y System Data Gwybodaeth Forol integredig (iMarDIS). Mae ei ymchwil yn cynnwys datblygu systemau arsylliadol morol awtonomaidd, defnyddio systemau rhifyddol i ddeall a rhagfynegi canlyniadau pwysau naturiol ac anthropogenig ar statws yr amgylchedd morol a datblygu datrysiadau hysbyseg amgylcheddol i wella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithredu polisi amgylcheddol morol. Mae wedi rhoi cyngor arbenigol i UK Defra, ICES (Cyngor Rhyngwladol ar Archwilio’r Môr) a’r Comisiwn Ewropeaidd ar y strategaethau i weithredu dull ecosystem ar gyfer gweithredu polisi amgylcheddol a datblygu rhwydweithiau rheoli ac arsyllu pan-Ewropeaidd.

E-bost: d.mills@bangor.ac.uk

Martin Austin

Arweinydd arsyllfa arfordirol SEEC

Mae Martin Austin yn eigionegwr arsylliadol ac mae'n arbenigo yn hydro- a morffo-ddynameg y rhynglanw a rhanbarthau islanwol bas yr arfordir. Mae wedi chwarae rhan uniongyrchol mewn deg prosiect ymchwil pwysig yn cynnwys Rhan I o ddau grant EPSRC. Mae'n arwain system Arsyllfa Arfordirol SEACAMS2, gan ddarparu data amser-real o’r amgylchedd morol. Mae hefyd wedi gwneud gwaith ymgynghorol ar gyfer partneriaid yn y sector diwydiannol a chyhoeddus (CEFAS/EDF Energy, Asiantaeth yr Amgylchedd), ac mae’n cydweithio’n gyson â Nortek, Deltares, a’r RNLI.

E-bost: m.austin@bangor.ac.uk

Dewch i wybod mwy am Martin Austin.

John Healey

Aelod o’r tîm pecyn gwaith strwythurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon

John Healey yw Athro Gwyddorau Coedwigaeth a Chyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg Brifysgol. Mae ei ymchwil sy’n cyd-fynd â SEEC yn cynnwys asesu cylch oes cadwyni gwerth cynnyrch coedwigoedd cynaliadwy, defnyddio dadansoddiad o wasanaethau ecosystem ac economeg amgylcheddol i effeithlonrwydd adnoddau a lliniaru newid hinsawdd, ac asesu effaith y newid ar yr hinsawdd a’r rheolaeth ohono ar ddynameg system a dal a storio carbon. Bydd hefyd yn cyfrannu ei brofiad yn seiliedig ar ei ymchwil i dystiolaeth i gefnogi polisi ar gyfer “coetiroedd sy’n gydnaws â’r hinsawdd”, adfer tir ôl-ddiwydiannol, ac adolygiad systematig o dystiolaeth amgylcheddol. Mae’n brif olygydd y cylchgrawn Frontiers in Forests and Global Change.

E-bost: j.healey@bangor.ac.uk

Dewch i wybod mwy am John Healey.

Ben Lincoln

Cymrawd Ymchwil mewn Eigioneg Arsylwadol Cymhwysol

Fel eigionegwr ffisegol arsylwadol, mae Ben Lincoln yn mesur cerhyntau a haeniadau’r cefnfor, er mwyn deall beth sy’n ysgogi cynnwrf a chymysgu yn y cefnfor, yn cynnwys prosesau ffisegol, fel tonnau, llanwau, osgiladiadau inertiol a thonnau mewnol. Mae deall y prosesau hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiadau morol gan eu bod yn effeithio’n ffisegol ar strwythurau wedi’u peiriannu yn yr amgylchedd morol, ac yn ysgogi cludiant gwaddod a newidiadau ecolegol. Mae ei ymchwil hefyd yn ymwneud â heriau amgylcheddol, fel mesur ffrydiau gwres, sy’n ysgogi toddi ym moroedd y pegynau, ffrydiau maetholion yn cefnogi pysgodfeydd, a chyfraddau amsugnad CO2 cefnforol o’r atmosffer.

E-bost: ben.lincoln@bangor.ac.uk

David Christie

Cymrawd Ymchwil mewn Modelu Ynni Adnewyddadwy Cefnforol

Mae David Christie yn Gymrawd Ymchwil SEEC mewn Modelu Ynni Adnewyddadwy Cefnforol. Mae’n ymwneud ag asesu adnoddau tonnau a llanwau a disgrifio safle hydrodynamegol ar gyfer safleoedd ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae’n mwynhau cyfuno dulliau dadansoddol, rhifiadol ac arsylwadol gydag ystod amrywiol o broblemau ffiseg a pheirianneg, ac edrych am ffyrdd newydd i baramedru ffenomena ffisegol. Yn ogystal â diddordeb ers peth amser mewn ynni adnewyddadwy, mae ei yrfa ymchwil amrywiol hefyd wedi ymgorffori electrodynameg pelydrau cyflymyddion gronynnau a strwythurau cyfansawdd, a dulliau cydamrywiol o ran hylifau a meysydd.

E-bost: d.christie@bangor.ac.uk

Matt Lewis

Cymrawd EPSRC

Mae Matt Lewis yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor mewn eigioneg ffisegol, gyda chymwysiadau i ddiwydiannau economi las fel ynni adnewyddadwy morol. Drwy ddefnyddio efelychiadau cyfrifiadurol o systemau’r ddaear, mae Matt yn anelu at gysylltu prosesau eigioneg allweddol, fel tonnau a llanwau, ag ynni adnewyddadwy morol. Er enghraifft, sut mae prosesau bioffisegol yn rhyngweithio a sut y gallant newid yn y dyfodol o dan sefyllfaoedd newid hinsawdd? Mae gan Matt gymrodoriaeth EPSRC ynni adnewyddadwy morol (METRIC), sy’n anelu at fapio’r adnodd byd-eang, disgrifio amodau cefnforoedd, a rhyngweithiadau (rhai negyddol a chadarnhaol). Mae Matt yn gweithio gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy blaenllaw (e.e. cyd-oruchwylio ysgoloriaethau ymchwil PhD ar fapio adnoddau), yn gynullwr sesiwn cynhadledd EGU mewn ynni adnewyddadwy morol, yn aelod o Goleg Adolygu Cyfoedion Cyswllt EPSRC ac yn olygydd tri chyfnodolyn: MDPI Journal of Marine Science and Engineering, y cyfnodolyn Energies, a Frontiers in Marine Sciences. Mae Matt  yn rhan o grŵp ymgynghorol nifer o brosiectau ymchwil, yn cynnwys AuSTEN, Supergen-ORE a PRIMaRE.

E-bost: m.j.lewis@bangor.ac.uk

Dewch i wybod mwy am Matt Lewis

Morwenna Spear

Swyddog Ymchwil, Biogyfansoddion

Mae Morwenna Spear yn wyddonydd ymchwil yn y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn coed a deunyddiau sy’n seiliedig ar ddeunyddiau biolegol. Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys modelu’r rhyngweithiadau rhwng pren, lleithder a gwlybaniaeth, yng nghyd-destun adeiladau ac ar y raddfa ficro fel ei gilydd. Mae prosiectau’r gorffennol yn cynnwys defnyddio’r cysyniadau hyn gyda sychu odynau, addasu coed yn thermol a systemau addasu pren eraill. Mae pob un yn amrywio o raddfa labordy i sefyllfaoedd masnachol llawn. Mae Dr Spear wedi cyhoeddi dros hanner cant o bapurau, yn cynnwys wyth pennod mewn gwerslyfrau gwyddonol. Mae hefyd yn mwynhau cyfathrebu gwyddoniaeth i bobl ifanc ac oedolion mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol, yn ogystal â chyfrannu colofnau at Wood Based Panels International a’r Timber Trade Journal. Mae Morwenna yn aelod o fwrdd Cymdeithas Technoleg Coed o fewn yr IOM3, a hi yw Is-gadeirydd cyfredol y bwrdd. Drwy’r WTS mae wedi trefnu cynhadledd reolaidd Coed cenedlaethol yn 2018, 2019 a 2020.

E-bost: m.j.spear@bangor.ac.uk

Athanasios Dimitriou

Gwyddonydd Deunyddiau (Biogyfansoddion)

Mae Athanasios Dimitriou yn wyddonydd deunyddiau yn y Ganolfan Biogyfansoddion. Mae ganddo BSc mewn gwyddorau coed a dylunio a thechnoleg dodrefn, a PhD mewn gwyddorau coed gan ganolbwyntio ar nodweddion ac adlyniad arwyneb. Mae ei arbenigedd gwyddorau coed yn seiliedig ar anatomeg coed a nodweddion mecanyddol a chemegol yn seiliedig ar goed, fel allyriadau cyfansoddion anweddol a sbectroffotometreg arwyneb. Mae ganddo hefyd brofiad mewn dadansoddi modelau atchweliadau a chemofetrigau, yn ogystal â phrofiad mewn profion rheoli ansawdd deunyddiau a dodrefn yn unol â safonau Ewropeaidd a rhyngwladol. Mae gan Athanasios brofiad mewn modelu amlffiseg a datblygu prototeip o ddyfeisiau amlsynhwyrydd ar gyfer monitro amodau amgylcheddol. Mae ganddo sgiliau iaith rhaglenni mewn Python, C++ a Java ar gyfer datblygu meddalwedd gweithredu i’r dyfeisiau prototeip. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn pensaernïaeth CAD 2D/3D, dylunio technegol a dylunio cynhyrchion diwydiannol, yn cynnwys dadansoddiad ergonomig gan ganolbwyntio ar ddatblygu dodrefn. Mae gan Athanasios brofiad ac arbenigedd mewn ystod eang o feysydd, sy’n sicrhau dull cyfannol gyda datblygu cynhyrchion, o nodweddion deunyddiau sylfaenol i ddyluniad ergonomig a pherfformiad amgylcheddol mewn swydd, er mwyn gwireddu pwrpas defnyddio’r cynhyrchion yn llawn. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn adeiladu â choed fel dull i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, a defnyddio coed cartref. Mae Athanasios yn cynrychioli’r DU fel arbenigwr BSI mewn CEN/TC 124 WG 3.

E-bost: a.dimitriou@bangor.ac.uk 

Max Dickens

Swyddog Cefnogi Prosiect Ymchwil

Mae Max Dickens yn swyddog cefnogi prosiect ymchwil SEEC. Mae ganddo MSc mewn ynni adnewyddadwy morol ac ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar greu prototeipiau a dilysu rhwydweithiau synwyryddion clyfar. Yng nghyd-destun adeiladau clyfar, mae hyn yn cynnwys datblygu cyfrifiaduron wedi’u sefydlu ar gyfer adeiladu camau monitro a rhagfynegi iechyd, ac ar gyfer y pecyn gwaith Niwclear, bydd hyn yn cynnwys datblygu cyfrifiaduron wedi’u sefydlu ar gyfer mesur a rheoli cyfleusterau profi hydrolig thermol.

E-bost: tcu459@bangor.ac.uk

Jonathan Demmer

Swyddog Ymchwil mewn Ynni Adnewyddadwy Cefnforol

Mae Jonathan yn ymwneud â mesur a chymhwyso effaith amgylcheddol ynni adnewyddu ar y môr a’r posibilrwydd o gyfleoedd cydleoli. Ar hyn o bryd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: 1) datblygu dulliau olrhain gronynnau Lagrange yn addas ar gyfer astudiaethau amrywiol (e.e. gwasgariad llygryddion, plastigion a larfaod); 2) y rhyngweithio rhwng isadeiledd ynni adnewyddadwy ar y môr a gwasgariad larfaod; a 3) creu modelau hydrodeinamig 3D i fesur effaith newid yn yr hinsawdd ar echdynnu ynni. Mae’n mwynhau prosiectau ymchwil amlddisgyblaethol drwy gyfuno ecoleg larfaod, ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy, mae ei yrfa ymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar ddyframaethu i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y diwydiant hwn. Mae astudio synergedd dau ddiwydiant morol hanfodol (ynni adnewyddadwy ar y môr a dyframaethu) yn her fawr ar gyfer dyfodol cynaliadwy ac i leihau effaith ddynol ar ecosystem forol.

E-bost: osp816@bangor.ac.uk

Vicky Marti

Swyddog Cefnogi Prosiect Ymchwil (Ynni Adnewyddadwy Cefnforol)

Mae Vicky Martí yn swyddog cefnogi ymchwil SEEC ym mhecyn gwaith ynni adnewyddadwy cefnforol. Mae ganddi MSci mewn Eigioneg gyda Ffrangeg ac MSc mewn Ynni Adnewyddadwy Morol. Mae ei phrif ddiddordebau’n cynnwys eigioneg ffisegol a meteoroleg, gyda diddordeb penodol mewn llanwau a thonnau a chofleidio grym y cefnfor. Mae ei swydd yn cynnwys cynorthwyo gydag archwilio nodweddion adnoddau ynni ar y môr, graddnodi a dilysu modelau cefnfor, a chynorthwyo i gynllunio mordeithiau i gasglu data, ymhlith pethau eraill. Bydd ei hymchwil yn canolbwyntio ar wella’r ddealltwriaeth o ddeinamig gwaddod cymysg yng nghyd-destun ynni adnewyddadwy’r cefnfor.

E-bost: v.marti@bangor.ac.uk

Wenna Jones

Rheolwr Prosiect

Wenna Lloyd Jones yw’r Rheolwr Prosiect ar gyfer SEEC ac mae'n gyfrifol am weithredu’r prosiect yn unol â’r Cynllun Busnes. Mae ganddi 8 mlynedd o brofiad o weinyddu prosiectau a ariennir gan ERDF a hi yw Rheolwr Prosiect SEACAMS2, sydd hefyd yng Nghanolfa Forol Cymru

E-bost: wenna.lloyd-jones@bangor.ac.uk