Ynni Adnewyddadwy Morol

Yn gorchuddio 71% o arwynebedd y Ddaear, mae un o’r ffynonellau trosi ynni carbon isel mwyaf o bosibl o’n hamgylch - y cefnfor. Er y llwyddiant mawr i ddatblygu gwynt ar y môr (e.e. gosodwyd 20 GW drwy’r byd), ni ddefnyddiwyd unrhyw fath arall o drosi ynni adnewyddadwy morol ar raddfa sylweddol, eto i gyd mae potensial enfawr ar gyfer ynni’r tonnau (hyd at 1 TW), ynni’r llanw (hyd at 1 TW), a throsi ynni thermol morol (OTEC) (yn ôl yr amcangyfrif, hyd at 5 TW). Y prif rwystr rhag cynnydd yw cost, ac felly bydd SEEC yn canolbwyntio ar feysydd ymchwil a fydd yn arwain at leihau costau, yn cynnwys gwell dealltwriaeth o’r adnodd, gyda ffocws arbennig ar ynni’r tonnau ac ynni’r llanw (amrediad llanw a ffrwd lanw).

Nodau ac Amcanion

Prif nod y pecyn gwaith ynni adnewyddadwy morol yw lleihau costau, trwy fodelu cyfunol a dull arsylliadol. Y prif amcanion yw:

  1. Gwella’r defnydd o’r adnodd
  2. Gwella’r ddealltwriaeth o ryngweithio adnoddau lluosog.
  3. Ymchwilio i integreiddio ynni adnewyddadwy morol i’r grid yn y dyfodol.
  4. Gwella dulliau o fesur yr effaith ar yr amgylchedd.