Strwythurau Sy’n Defnyddio Ynni’n Effeithlon

Yn yr ymdrech i sicrhau mwy o adeiladau a strwythurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, mae angen cynyddol i fonitro ac asesu strwythurau ac effaith y strwythurau hyn ar y rhai sy’n byw yn yr adeilad. Bydd y pecyn gwaith hwn yn mynd i’r afael â’r angen hwn trwy ddylunio a gweithredu ‘Gwasanaethau adeiladu 4.0’.

Yn sgil yr angen i adeiladu dros 300,000 o gartrefi newydd yn y DU, ac awydd y Llywodraeth i’r cartrefi hyn gael eu creu o ffrâm bren a chynnwys mwy o fioddeunyddiau, rhaid meithrin hyder yn y deunyddiau hyn, trwy fonitro, modelu a rhagweld yn barhaus y methiannau cyn iddynt ddatblygu’n broblem.

Nodau ac Amcanion

Nod cyffredinol y pecyn gwaith strwythurau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yw datblygu gallu adeiladau i hunan-ragweld methiannau yn y seilwaith trwy fonitro manwl (trwy rwydweithiau o synwyryddion manwl-gywir) a datblygu modelau rhagfynegol, wedi’u hintegreiddio mewn systemau cyfrifiadurol craff. Bydd y systemau hyn hefyd yn cynnwys modelau a fydd yn rhagweld lles defnyddwyr a mwy o effeithlonrwydd amgylcheddol. Y prif amcanion yw:

  1. Penderfynu ynghylch priodweddau ac effeithlonrwydd ynni bioddeunyddiau adeiladu newydd, yn cynnwys elfennau aml ddeunydd, a’u hymateb i amodau amgylcheddol dan do modern, sydd eu hangen i’w cynnwys mewn strwythurau craff.
  2. Datblygu modelau aml ddimensiwn i ragweld methiant a allai fod yn gostus o ran ynni mewn deunyddiau ac elfennau adeiladu.
  3. Dylunio rhwydweithiau synwyryddion effeithlon i gyflenwi data i’r modelau rhagfynegol, gan ddefnyddio dronau synwyryddion.
  4. Dilysu’r modelau rhagfynegol ac allbynnau grŵp synwyryddion.
  5. Defnyddio’r grwpiau synwyryddion a’r modelau rhagfynegol mewn strwythurau-craff integredig ar raddfa adeiladu real a monitro eu perfformiad o ran effeithlonrwydd ynni.